Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 16:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win.

2. A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i'r llanciau i'w bwyta, a gwin i'r lluddedig i'w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy.

3. A'r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad.

4. Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin.

5. A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a'i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo.

6. Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a'r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef.

7. Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i'r fall.

8. Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a'r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 16