Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:27-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A'r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i'r ddinas mewn heddwch, a'th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar.

28. Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i'w fynegi i mi.

29. Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno.

30. A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a'i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A'r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.

31. A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.

32. A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben.

33. A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf:

34. Ond os dychweli i'r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel.

35. Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid.

36. Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a'r a glywoch.

37. Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i'r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15