Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:12-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o'i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A'r cydfradwriaeth oedd gryf; a'r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.

13. A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom.

14. A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a'n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo'r ddinas â min y cleddyf.

15. A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin.

16. A'r brenin a aeth, a'i holl dylwyth ar ei ôl. A'r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ.

17. A'r brenin a aeth ymaith, a'r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell.

18. A'i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a'r holl Belethiaid, a'r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin.

19. Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda'r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o'th fro dy hun.

20. Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi.

21. Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd.

22. A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a'i holl wŷr, a'r holl blant oedd gydag ef.

23. A'r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a'r holl bobl a aethant drosodd. A'r brenin a aeth dros afon Cidron, a'r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch.

24. Ac wele Sadoc, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i'r holl bobl ddyfod allan o'r ddinas.

25. A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i'r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a'm dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a'i babell.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15