Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:11-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll.

12. Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o'i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A'r cydfradwriaeth oedd gryf; a'r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.

13. A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15