Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o'i flaen.

2. Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was.

3. Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti.

4. Dywedai Absalom hefyd, O na'm gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo!

5. A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a'i cusanai.

6. Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel.

7. Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i'r Arglwydd, yn Hebron.

8. Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd.

9. A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.

10. Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15