Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:23-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.

24. A'r brenin a ddywedodd, Troed i'w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i'w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.

25. Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef.

26. A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a'i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin.

27. A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a'i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.

28. Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin.

29. Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i'w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim.

30. Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân.

31. Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i'w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân?

32. Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y'th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.

33. Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A'r brenin a gusanodd Absalom.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14