Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho.

15. Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â'm harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i'r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â'r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn.

16. Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.

17. A'th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando'r da a'r drwg: a'r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi.

18. Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin.

19. A'r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A'r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn:

20. Ar fedr troi'r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel Duw, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear.

21. A'r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl.

22. A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i'r brenin gyflawni dymuniad ei was.

23. A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14