Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom.

2. A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw:

3. A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.

4. A'r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin.

5. A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a'm gŵr a fu farw.

6. Ac i'th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a'i lladdodd ef.

7. Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.

8. A'r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i'th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o'th blegid di.

9. A'r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a'r brenin a'i orseddfainc ef yn ddieuog.

10. A'r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14