Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:25-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a'i bendithiodd ef.

26. Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi?

27. Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin.

28. Ac Absalom a orchmynnodd i'w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.

29. A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.

30. A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt.

31. Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a'i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â'u gwisgoedd yn rhwygedig.

32. A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef.

33. Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw.

34. Ond Absalom a ffodd. A'r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o'i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd.

35. A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae.

36. A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A'r brenin hefyd a'i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13