Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 1:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)

19. O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!

20. Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.

21. O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.

22. Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bwa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag.

23. Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt na'r eryrod, a chryfach oeddynt na'r llewod.

24. Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.

25. Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd.

26. Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.

27. Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 1