12. Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr Arglwydd, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.
13. A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi.
14. A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd?
15. A Dafydd a alwodd ar un o'r gweision, ac a ddywedodd, Nesâ, rhuthra iddo ef. Ac efe a'i trawodd ef, fel y bu efe farw.
16. A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr Arglwydd.
17. A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab:
18. (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)
19. O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!
20. Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.
21. O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.
22. Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bwa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag.
23. Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt na'r eryrod, a chryfach oeddynt na'r llewod.