1. Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag;
2. Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o'r gwersyll oddi wrth Saul, a'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd.
3. A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i.
4. A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o'r rhyfel, a llawer hefyd o'r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.
5. A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo, Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab?
6. A'r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a'r marchogion yn erlid ar ei ôl ef.
7. Ac efe a edrychodd o'i ôl, ac a'm canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi.
8. Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi.
9. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto.
10. Felly mi a sefais arno ef, ac a'i lleddais ef; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a'r freichled oedd am ei fraich ef, ac a'u dygais hwynt yma at fy arglwydd.
11. Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a'u rhwygodd hwynt; a'r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.