20. A holl lestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon.
21. Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram: unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.
22. A'r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.
23. A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef.
24. A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.
25. Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch; ac efe a'u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
26. Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o'r afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft.
27. A'r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a'r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
28. Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o'r Aifft, ac o bob gwlad.
29. A'r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?
30. A Solomon a deyrnasodd yn Jerwsalem ar holl Israel ddeugain mlynedd.
31. A Solomon a hunodd gyda'i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.