Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 8:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ond o'u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Solomon a'u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn.

9. Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a'i wŷr meirch ef.

10. A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y bobl.

11. A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i'r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo.

12. Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i'r Arglwydd ar allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth;

13. I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

14. Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a'r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a'r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw.

15. Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i'r offeiriaid a'r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau.

16. A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd.

17. Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom.

18. A Hiram a anfonodd gyda'i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a'u dygasant i'r brenin Solomon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 8