Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 7:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'r Arglwydd a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth.

13. Os caeaf fi y nefoedd, fel na byddo glaw, neu os gorchmynnaf i'r locustiaid ddifa y ddaear, ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl;

14. Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o'u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o'r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachâf eu gwlad hwynt.

15. Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a'm clustiau yn ymwrando â'r weddi a wneir yn y fan hon.

16. Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a'm calon a fyddant yno yn wastadol.

17. A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a'm barnedigaethau:

18. Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di, megis yr amodais â Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel.

19. Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a'm gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:

20. Yna mi a'u diwreiddiaf hwynt o'm gwlad a roddais iddynt, a'r tŷ a sancteiddiais i'm henw a fwriaf allan o'm golwg, a mi a'i rhoddaf ef yn ddihareb, ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

21. A'r tŷ yma, yr hwn sydd uchel, a wna i bawb a'r a êl heibio iddo synnu: fel y dywedo, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r wlad hon, ac i'r tŷ hwn?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 7