Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 36:17-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â'r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn, na hen, na'r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a'u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.

18. Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau y brenin a'i dywysogion: y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon.

19. A hwy a losgasant dŷ Dduw, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a'i holl balasau hi a losgasant hwy â than, a'i holl lestri dymunol a ddinistriasant.

20. A'r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i'w feibion, nes teyrnasu o'r Persiaid:

21. I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o'r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.

22. Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd,

23. Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o'i holl bobl ef? yr Arglwydd ei Dduw fyddo gydag ef, ac eled i fyny.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 36