1. Yna pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem.
2. Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
3. A brenin yr Aifft a'i diswyddodd ef yn Jerwsalem; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian, a thalent o aur.
4. A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, ac a drodd ei enw ef yn Joacim. A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef, ac a'i dug i'r Aifft.
5. Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw.
6. Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a'i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i'w ddwyn i Babilon.
7. Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr Arglwydd i Babilon, ac a'u rhoddodd hwynt yn ei deml o fewn Babilon.