Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:25-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i'm digio i â holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

26. Ond am frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi i ymofyn â'r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist;

27. Oblegid i'th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o'm blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr Arglwydd.

28. Wele, mi a'th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i'r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i'r brenin drachefn.

29. Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem.

30. A'r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid, a'r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd.

31. A'r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a'i dystiolaethau, a'i ddefodau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw.

32. Ac efe a wnaeth i bawb a'r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau.

33. Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o'r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a'r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr Arglwydd eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34