Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:12-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath, ac Obadeia, y Lefiaid, o feibion Merari; a Sechareia, a Mesulam, o feibion y Cohathiaid, i'w hannog: ac o'r Lefiaid, pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd.

13. Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr, ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith: ac o'r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion, a swyddogion, a phorthorion.

14. A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr Arglwydd, Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd, yr hwn a roddasid trwy law Moses.

15. A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd. A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan:

16. A Saffan a ddug y llyfr at y brenin, ac a ddug air drachefn i'r brenin, gan ddywedyd, Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn ei wneuthur.

17. Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr, ac yn llaw y gweithwyr.

18. Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i'r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin.

19. A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

20. A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd,

21. Ewch, ymofynnwch â'r Arglwydd drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

22. Yna yr aeth Hilceia, a'r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.

23. A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i'r gŵr a'ch anfonodd chwi ataf fi,

24. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda:

25. Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i'm digio i â holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34