Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 33:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

10. Er llefaru o'r Arglwydd wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.

11. Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a'i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a'i dygasant ef i Babilon.

12. A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,

13. Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a'i dug ef drachefn i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw.

14. Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du'r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a'i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.

15. Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a'r ddelw, allan o dŷ yr Arglwydd, a'r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd, ac yn Jerwsalem, ac a'u taflodd allan o'r ddinas.

16. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel.

17. Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i'r Arglwydd eu Duw yn unig.

18. A'r rhan arall o hanes Manasse, a'i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel.

19. Ei weddi ef hefyd, a'r modd y cymododd Duw ag ef, a'i holl bechod ef, a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 33