2 Cronicl 33:7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ Dduw, am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.