Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 32:19-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn.

20. Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i'r nefoedd.

21. A'r Arglwydd a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i'w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o'i ymysgaroedd ei hun a'i lladdasant ef yno â'r cleddyf.

22. Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pawb eraill, ac a'u cadwodd hwynt oddi amgylch.

23. A llawer a ddygasant roddion i'r Arglwydd i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.

24. Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr Arglwydd: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo.

25. Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem.

26. Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrigolion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Heseceia.

27. Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn: ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerthfawr, o beraroglau hefyd, ac o darianau, ac o bob llestri hyfryd;

28. A selerau i gnwd yr ŷd, a'r gwin, a'r olew; a phresebau i bob math ar anifail, a chorlannau i'r diadellau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 32