Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 31:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r Arglwydd eu Duw, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.

7. Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio'r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.

8. A phan ddaeth Heseceia a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a'i bobl Israel.

9. A Heseceia a ymofynnodd â'r offeiriaid a'r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.

10. Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl; a'r gweddill yw yr amldra hyn.

11. A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a'u paratoesant,

12. Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a'r degwm, a'r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail.

13. Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ Dduw.

14. A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua'r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw, i rannu offrymau yr Arglwydd, a'r pethau sancteiddiolaf.

15. Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i'w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan:

16. Heblaw y gwrywiaid o'u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a'r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau;

17. I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i'r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau;

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 31