Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 31:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a'r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i'w feddiant, i'w dinasoedd.

2. A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a'r Lefiaid i'r poethoffrwm, ac i'r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd.

3. A rhan y brenin oedd o'i olud ei hun i'r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a'r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd.

4. Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i'r offeiriaid a'r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd.

5. A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a'r olew, a'r mêl, ac o holl gnwd y maes, a'r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.

6. A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r Arglwydd eu Duw, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.

7. Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio'r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.

8. A phan ddaeth Heseceia a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a'i bobl Israel.

9. A Heseceia a ymofynnodd â'r offeiriaid a'r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.

10. Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl; a'r gweddill yw yr amldra hyn.

11. A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a'u paratoesant,

12. Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a'r degwm, a'r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail.

13. Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 31