8. Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i'r Arglwydd, a deuwch i'w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.
9. Canys os dychwelwch chwi at yr Arglwydd, eich brodyr chwi a'ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a'u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i'r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr Arglwydd eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef.
10. Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a'u gwatwarasant hwy.
11. Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse, ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.
12. Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a'r tywysogion, yn ôl gair yr Arglwydd.
13. A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn.