Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 30:6-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Felly y rhedegwyr a aethant â'r llythyrau o law y brenin a'i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.

7. Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn Arglwydd Dduw eu tadau; am hynny efe a'u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi.

8. Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i'r Arglwydd, a deuwch i'w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.

9. Canys os dychwelwch chwi at yr Arglwydd, eich brodyr chwi a'ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a'u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i'r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr Arglwydd eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef.

10. Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a'u gwatwarasant hwy.

11. Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse, ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 30