Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 30:15-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis: yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr Arglwydd.

16. A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.

17. Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i'w sancteiddio i'r Arglwydd.

18. Oherwydd llawer o'r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un

19. A baratôdd ei galon i geisio Duw, sef Arglwydd Dduw ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr.

20. A'r Arglwydd a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y bobl.

21. A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a'r offeiriaid oedd yn moliannu yr Arglwydd o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 30