Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 30:1-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda, ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse, i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i Jerwsalem i gynnal Pasg i Arglwydd Dduw Israel.

2. A'r brenin a ymgynghorodd, a'i dywysogion, a'r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis.

3. Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon, ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem.

4. A da oedd y peth yng ngolwg y brenin, ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa.

5. A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel, o Beerseba hyd Dan, am ddyfod i gynnal y Pasg i Arglwydd Dduw Israel yn Jerwsalem: canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig.

6. Felly y rhedegwyr a aethant â'r llythyrau o law y brenin a'i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.

7. Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn Arglwydd Dduw eu tadau; am hynny efe a'u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi.

8. Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i'r Arglwydd, a deuwch i'w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.

9. Canys os dychwelwch chwi at yr Arglwydd, eich brodyr chwi a'ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a'u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i'r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr Arglwydd eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef.

10. Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a'u gwatwarasant hwy.

11. Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse, ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.

12. Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a'r tywysogion, yn ôl gair yr Arglwydd.

13. A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn.

14. A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogl-darth, a thaflasant hwynt i afon Cidron.

15. Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis: yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr Arglwydd.

16. A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.

17. Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i'w sancteiddio i'r Arglwydd.

18. Oherwydd llawer o'r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un

19. A baratôdd ei galon i geisio Duw, sef Arglwydd Dduw ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 30