Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 3:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.

10. Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.

11. Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.

12. Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall.

13. Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a'u hwynebau tuag i mewn.

14. Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny.

15. Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a'r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd.

16. Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a'u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a'u rhoddodd ar y cadwynau.

17. A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o'r tu deau, ac un o'r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 3