Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 3:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a'i barwydydd, a'i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd.

8. Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd: ac efe a'i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent.

9. Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.

10. Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.

11. Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 3