2. Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o'r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad.
3. A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd.
4. A'r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur.
5. A'r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef.
6. Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a'r aur oedd aur Parfaim.
7. Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a'i barwydydd, a'i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd.