Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 3:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr Arglwydd i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

2. Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o'r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad.

3. A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd.

4. A'r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur.

5. A'r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef.

6. Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a'r aur oedd aur Parfaim.

7. Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a'i barwydydd, a'i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd.

8. Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd: ac efe a'i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent.

9. Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 3