Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 29:9-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy'r cleddyf, ein meibion hefyd, a'n merched, a'n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.

10. Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.

11. Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr Arglwydd a'ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.

12. Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Asareia, o feibion y Cohathiaid: ac o feibion Merari; Cis mab Abdi, ac Asareia mab Jehaleleel: ac o'r Gersoniaid; Joa mab Simma, ac Eden mab Joa:

13. Ac o feibion Elisaffan; Simri, a Jeiel; ac o feibion Asaff; Sechareia, a Mataneia:

14. Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn; Semaia, ac Ussiel.

15. A hwy a gynullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin, trwy eiriau yr Arglwydd, i lanhau tŷ yr Arglwydd.

16. A'r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr Arglwydd i'w lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Arglwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd. A'r Lefiaid a'i cymerasant, i'w ddwyn ymaith allan i afon Cidron.

17. Ac yn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o'r mis y daethant i borth yr Arglwydd: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr Arglwydd, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf y gorffenasant.

18. Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr Arglwydd, ac allor y poethoffrwm, a'i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a'i holl lestri.

19. A'r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr Arglwydd.

20. Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd.

21. A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr Arglwydd.

22. Felly hwy a laddasant y bustych, a'r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a'i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.

23. A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a'r gynulleidfa, ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 29