7. Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogl-darth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.
8. Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â'ch llygaid.
9. Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy'r cleddyf, ein meibion hefyd, a'n merched, a'n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.
10. Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.