3. Yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd, ac a'u cyweiriodd hwynt.
4. Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a'r Lefiaid, ac a'u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain,
5. Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dŷ Arglwydd Dduw eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o'r lle sanctaidd.
6. Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw, ac a'i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd, ac a droesant eu gwarrau.
7. Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogl-darth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.
8. Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â'ch llygaid.
9. Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy'r cleddyf, ein meibion hefyd, a'n merched, a'n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.
10. Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag Arglwydd Dduw Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.
11. Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr Arglwydd a'ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.
12. Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Asareia, o feibion y Cohathiaid: ac o feibion Merari; Cis mab Abdi, ac Asareia mab Jehaleleel: ac o'r Gersoniaid; Joa mab Simma, ac Eden mab Joa:
13. Ac o feibion Elisaffan; Simri, a Jeiel; ac o feibion Asaff; Sechareia, a Mataneia:
14. Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn; Semaia, ac Ussiel.