Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 29:24-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A'r offeiriaid a'u lladdasant hwy, ac a wnaethant gymod ar yr allor â'u gwaed hwynt, i wneuthur cymod dros holl Israel: canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a'r pech-aberth.

25. Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhÅ· yr Arglwydd, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr Arglwydd, trwy law ei broffwydi ef.

26. A'r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd, a'r offeiriaid â'r utgyrn.

27. A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a'r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr Arglwydd, â'r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.

28. A'r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a'r cantorion yn canu, a'r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.

29. A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a'r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 29