Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 29:22-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Felly hwy a laddasant y bustych, a'r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a'i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.

23. A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a'r gynulleidfa, ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy.

24. A'r offeiriaid a'u lladdasant hwy, ac a wnaethant gymod ar yr allor â'u gwaed hwynt, i wneuthur cymod dros holl Israel: canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a'r pech-aberth.

25. Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr Arglwydd, trwy law ei broffwydi ef.

26. A'r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd, a'r offeiriaid â'r utgyrn.

27. A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a'r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr Arglwydd, â'r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.

28. A'r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a'r cantorion yn canu, a'r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.

29. A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a'r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.

30. A Heseceia y brenin a'r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.

31. A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i'r Arglwydd; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr Arglwydd. A'r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.

32. A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i'r Arglwydd.

33. A'r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.

34. Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a'u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i'r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na'r offeiriaid.

35. Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a'r ddiod-offrwm i'r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.

36. A Heseceia a lawenychodd, a'r holl bobl, oherwydd paratoi o Dduw y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 29