14. Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn; Semaia, ac Ussiel.
15. A hwy a gynullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin, trwy eiriau yr Arglwydd, i lanhau tŷ yr Arglwydd.
16. A'r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr Arglwydd i'w lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Arglwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd. A'r Lefiaid a'i cymerasant, i'w ddwyn ymaith allan i afon Cidron.
17. Ac yn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o'r mis y daethant i borth yr Arglwydd: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr Arglwydd, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf y gorffenasant.
18. Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr Arglwydd, ac allor y poethoffrwm, a'i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a'i holl lestri.
19. A'r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr Arglwydd.
20. Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd.