8. A meibion Israel a gaethgludasant o'u brodyr ddau can mil, yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt, ac a ddygasant yr ysbail i Samaria.
9. Ac yno yr oedd proffwyd i'r Arglwydd, a'i enw Oded; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, oherwydd digofaint Arglwydd Dduw eich tadau yn erbyn Jwda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi, a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd.
10. Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem, yn gaethweision, ac yn gaethforynion i chwi: onid oes gyda chwi, ie, gyda chwi, bechodau yn erbyn yr Arglwydd eich Duw?
11. Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi, a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o'ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi.