Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 28:23-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a'i trawsent ef; ac efe a ddywedodd, Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y'm cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd.

24. Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ Dduw, ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr Arglwydd, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem.

25. Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr, ac a ddicllonodd Arglwydd Dduw ei dadau.

26. A'r rhan arall o'i hanes ef, a'i holl ffyrdd, cyntaf a diwethaf, wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

27. Ac Ahas a hunodd gyda'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn y ddinas yn Jerwsalem, ond ni ddygasant hwy ef i feddrod brenhinoedd Israel. A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 28