18. Y Philistiaid hefyd a ruthrasent i ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a'i phentrefi, Timna hefyd a'i phentrefi, a Gimso a'i phentrefi; ac a drigasant yno.
19. Canys yr Arglwydd a ddarostyngodd Jwda, o achos Ahas brenin Israel: oblegid efe a noethodd Jwda, gan droseddu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
20. A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef, ac a gyfyngodd arno ef, ac nis cynorthwyodd ef.
21. Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr Arglwydd, ac o dŷ y brenin, a chan y tywysogion, a'i rhoddi i frenin Asyria; eto nis cynorthwyodd efe ef.
22. A'r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr Arglwydd: hwn yw y brenin Ahas.
23. Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a'i trawsent ef; ac efe a ddywedodd, Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y'm cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd.
24. Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ Dduw, ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr Arglwydd, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem.