Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 28:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A'r Edomiaid a ddaethent eto, ac a drawsent Jwda, ac a gaethgludasent gaethglud.

18. Y Philistiaid hefyd a ruthrasent i ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a'i phentrefi, Timna hefyd a'i phentrefi, a Gimso a'i phentrefi; ac a drigasant yno.

19. Canys yr Arglwydd a ddarostyngodd Jwda, o achos Ahas brenin Israel: oblegid efe a noethodd Jwda, gan droseddu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

20. A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef, ac a gyfyngodd arno ef, ac nis cynorthwyodd ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 28