11. Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi, a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o'ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi.
12. Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim, Asareia mab Johanan, Berecheia mab Mesilemoth, a Jehisceia mab Salum, ac Amasa mab Hadlai, a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o'r filwriaeth,
13. Ac a ddywedasant wrthynt, Ni ddygwch y gaethglud yma: canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr Arglwydd, yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel.
14. Felly y llu a adawodd y gaethglud a'r anrhaith o flaen y tywysogion, a'r holl gynulleidfa.
15. A'r gwŷr, y rhai a enwyd wrth eu henwau, a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt â'r ysbail, a dilladasant hwynt, a rhoddasant iddynt esgidiau, ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed; eneiniasant hwynt hefyd, a dygasant ar asynnod bob un llesg, ie, dygasant hwynt i Jericho, dinas y palmwydd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria.
16. Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i'w gynorthwyo ef.
17. A'r Edomiaid a ddaethent eto, ac a drawsent Jwda, ac a gaethgludasent gaethglud.