Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 25:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mab pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem.

2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ond nid â chalon berffaith.

3. A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef, efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef.

4. Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchmynasai yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ni bydd marw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun.

5. Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a'u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a'u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a'u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian.

6. Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian.

7. Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, O frenin, nac aed llu Israel gyda thi: canys nid yw yr Arglwydd gydag Israel, sef gyda holl feibion Effraim.

8. Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarnha i ryfel: ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan Dduw nerth i gynorthwyo, ac i gwympo.

9. Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr Duw, Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? A dywedodd gŵr Duw, Y mae ar law yr Arglwydd roddi i ti lawer mwy na hynny.

10. Felly Amaseia a'u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i fyned i'w mangre eu hun. A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i'w mangre eu hun mewn llid dicllon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 25