Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 24:22-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr Arglwydd, a gofynned.

23. Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.

24. Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a'r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas.

25. A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a'i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i'w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a'i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.

26. A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.

27. Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd arno, a sylfaeniad tŷ Dduw, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 24