Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 22:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda'r Arabiaid i'r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd.

2. Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri.

3. Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg.

4. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i'w ddinistr ef.

5. Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a'r Syriaid a drawsant Joram.

6. Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â'r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe.

7. A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab.

8. A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a'u lladdodd hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 22