2. Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Jehosaffat; Asareia, a Jehiel, a Sechareia, ac Asareia, a Michael, a Seffatia: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel.
3. A'u tad a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau, gyda dinasoedd caerog yn Jwda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram, canys efe oedd y cyntaf-anedig.
4. A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr â'r cleddyf, a rhai hefyd o dywysogion Israel.
5. Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
6. Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
7. Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe â Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i'w feibion byth.