Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 21:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a'i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhÅ·'r brenin, a'i feibion hefyd a'i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o'i feibion.

18. Ac wedi hyn oll yr Arglwydd a'i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele.

19. A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgaroedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A'i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau.

20. Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 21