Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 20:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel.

2. Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o'r tu hwnt i'r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi.

3. A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.

4. A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio'r Arglwydd.

5. A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd,

6. Ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di?

7. Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a'i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd?

8. A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i'th enw, gan ddywedyd,

9. Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a'n gwaredi ni.

10. Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt:

11. Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i'n bwrw ni allan o'th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu.

12. O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i'n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.

13. A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â'u rhai bach, eu gwragedd, a'u plant.

14. Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa.

15. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw.

16. Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a'u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 20