Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 2:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef?

7. Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda'r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd.

8. Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus: ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda'th weision dithau;

9. A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol.

10. Ac wele, i'th weision, i'r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.

11. A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a'i hanfonodd at Solomon, O gariad yr Arglwydd ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.

12. Dywedodd Hiram hefyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i'r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r Arglwydd, a brenhindy iddo ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 2